|
Welcome to the world
of horse-back travel
|
|
Mae'r teulu Turner wedi rhedeg Canolfan Farchogaeth Cwmfforest ers ei sefydlu yn 1970. Erbyn hyn, hon yw'r ganolfan bennaf ar gyfer teithiau marchogaeth i oedolion yng Nghymru, gan gynnig marchogaeth sy'n sylfaenol wahanol! Yng Nghwmfforest, y ceffyl yw'r Brenin! Ar ôl diogelwch y cwsmer, daw lles y ceffylau'n gyntaf. Yma, maen nhw'n byw mewn gre yn ôl trefn natur; maen nhw'n bwyta gwair a phori dail, rhedeg lan a lawr bryniau a mynd mewn llinellau syth nid cylchoedd! Mae'r ceffylau call a hapus hyn yn cynnig reid braf, wedi'u helpu gan gyfrwyau cyfforddus ar gyfer teithiau hir! Mae cobiau Cymreig - yn gryf heb fod yn rhy fawr, yn ddeallus ac yn arbennig o sicr ar eu traed - yn byw yma o'u geni i'r bedd, yn aml am 30 mlynedd neu'n fwy. Rydyn ni'n eu dethol nhw'n ebolion yn ôl eu cymeriad, ac yna eu magu nhw ar gyfer bywyd ym mryniau Cymru, sefydlu eu lle yn y re a'u hyfforddi at eich gwasanaeth chi - ni chaiff ceffylau eu marchogaeth gan ymwelwyr cyn eu bod yn 5oed.
Rhaglenni: Rydyn ni'n cynnig tair rhaglen wythnosol sy'n cael eu hamlinellu isod; maen nhw wedi'u graddio o ran cyflymdra a hyd, ac felly yn effeithiol fel rhaglenni ffitrwydd, er mwyn dod â chi, y cwsmer, yn ddiogel i ben y daith. Does dim ond rhaid i chi gyrraedd yn barod i gael llawer o hwyl a bydd y cobiau'n gwneud y gweddill. Trafnidiaeth: Y Fenni yw'r dref agosaf, lle y mae gorsaf drenau a gorsaf fysiau; gallwn ni drefnu cwrdd â chi yno, neu gallwch chi ddal tacsi. Gallwn ni gwrdd ag ymwelwyr o dramor ym Maes Awyr Llundain Heathrow (LHR) oddeutu 13.00 ar ddydd Sadwrn. Rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n ymserchu yn y wlad, y pentrefi hynod a'r tafarnau traddodiadol ac, wrth gwrs, yn y marchogaeth, ac y byddwch chi'n dod i ddeall pam mai'r ceffyl yw'r cludydd pob-tir gorau!
Ein Canolfan Mae Fferm Cwmfforest yn gorwedd dan gysgod y Mynydd Du trawiadol. Mae'r teulu Turner yn croesawu ymwelwyr i'r ffermdy traddodiadol hwn ers 30 o flynyddoedd, i fwynhau marchogaeth cyffrous oddi ar yr heol, golygfeydd prydferth a lletygarwch rhagorol. Ymhlith ein gre o gobiau Cymreig hapus, mae yna un sy'n addas ar gyfer pob gallu. Ni all fod ffordd well o archwilio'r ardal nag oddi ar gefn un o'r brodorion sicr-eu-traed hyn. Teithiau Diwrnod a Hanner Diwrnod Mae'r rhain ar gael trwy'r flwyddyn. Caiff pob ymwelydd ei gyflwyno i'w geffyl cyfeillgar, a'i annog i'w baratoi ar gyfer y daith. Cynigir help a chyfarwyddyd os oes angen. Fel arfer, rydyn ni'n cael 4-5 awr ar gefn ceffyl yn ystod diwrnod llawn, gan ymlacio dros ginio mewn tafarn leol, lle gall y ceffylau fwynhau hoe fach hefyd. Mae teithiau hanner diwrnod ar gael bob dydd yn y bore neu'r prynhawn. Mae'r Mynydd Du'n cynnig tir ardderchog ar gyfer marchogaeth ar bob cyflymdra. Mae'r union deithiau'n hyblyg ac yn amrywio yn ôl y tywydd, cyflwr y tir a phrofiad y marchogwyr. Mae gennym ni sawl cwsmer sy'n byw hyd at daith o 2 awr i ffwrdd, sy'n dod yn aml ar y teithiau cyffrous hyn. Y pris am hanner diwrnod yw £20 ac am ddiwrnod yw £35. Gweler y mewnosodiad am brisiau'r teithiau eraill. Gwyliau penwythnos Rydyn ni'n rhedeg ein gwyliau penwythnos trwy'r flwyddyn. Maen nhw'n cynnig 2 ddiwrnod llawn o farchogaeth bywiog mewn pecyn hollgynhwysol. Ar y rhaglen hon gallwch chi ganolbwyntio ar gael hwyl ac ar farchogaeth dros y mynyddoedd. Mae'r penwythnos yn rhedeg o ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng Tachwedd a Mawrth, ac o ddydd Sadwrn i ddydd Llun yn ystod gweddill y flwyddyn. Cynigir llety fel arfer yn Ffermdy Cwmfforest ond weithiau yn rhywle arall lleol. Ar fore'r diwrnod cyntaf byddwch chi'n cwrdd â'n ceffylau a derbyn ychydig o gyfarwyddiadau ar sut i'w trin nhw. O'r fferm, dim ond dwy funud yw hi cyn cyrraedd y bryniau. Bydd taith bob dydd yn archwilio rhan wahanol o'r Mynydd Du gan gymryd cinio yn un o'r tafarnau gwledig lleol ar y ffordd. Mae'r pellter yn amrywio rhwng 8 a 15 milltir yn dibynnu ar allu'r marchogwyr a chyflwr y tir. Mae'r tir yn amrywiol gyda bryniau i'w dringo, nentydd mynydd i'w croesi a llwybrau gwelltog sy'n addas ar gyfer hanner-carlamu. Cynigir cymaint o amrywiaeth o lwybrau gan ein hardal fel ei bod yn anaml rydyn ni'n mynd dros yr un tir ddwywaith. Gadewch i'ch cob cryf wneud y gwaith wrth i chi fwynhau'r golygfeydd cyfnewidiol. Mae'n hawdd ymlacio'n llwyr ac anghofio am y byd tu allan. Mae hon yn ffordd wych i gael blas o deithiau marchogaeth hir yn y bryniau ac i wella'ch marchogaeth draws wlad. Yn y nos, weithiau byddwn ni'n mynd i'r dafarn leol neu'n aros o gwmpas y tân agored clyd yn ein lolfa. Ers Awst 2000 mae gennym ni Jacuzzi y gall pawb sy'n cofio eu gwisg nofio ymlacio ynddo cyn eu cinio nos. Mae digon i'w drafod â'ch cyd-farchogwyr, fel yr hwyl a gafwyd y diwrnod hwnnw neu'r gobeithion ar gyfer drannoeth . . . Cyn i chi wybod byddwch chi'n cynllunio i ddod yn ôl am ragor, ar un o'n teithiau hirach! Ai Taith y Mynydd Du neu Daith y Parc Cenedlaethol fydd hi? Taith y Mynydd Du Yng Nghwmfforest rydyn ni hefyd yn cynnig rhaglenni wythnosol yn y Mynydd Du. Mae'r teithiau hyn yn amrywio mewn pellter hyd at 20 milltir y dydd. Trefnir picnic neu ginio mewn tafarn yn ystod y teithiau hyn. Rydyn ni'n marchogaeth i bentrefi cyfagos Cwm-du, Talgarth, Llan-gors, Felindre a Bwlch yn ogystal â threiddio hyd at ganol y Mynydd Du. Bob nos rydyn ni'n dychwelyd i'r ffermdy i fwynhau coginio Maria ac i ymlacio. Mae pellter y teithiau'n cynyddu bob dydd trwy'r wythnos ac yn amrywio yn ôl gallu'r marchogwyr. Yn ogystal â Thaith y Mynydd Du, gellir trefnu gwyliau byr rhwng tri a phum diwrnod o gwmpas y penwythnos neu yng nghanol yr wythnos. Croeso i chi holi trwy ffonio neu e-bostio. Teithiau Hirach - Taith y Parc Cenedlaethol a Thaith Draws-Gymru Ar gyfer y marchog mwy uchelgeisiol ein harbenigedd yw teithiau sy'n mentro'n bellach oddi cartref. Mae Taith y Parc Cenedlaethol yn mynd ag ymwelwyr ar daith ar lun ffigur wyth o gwmpas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ac mae'r Daith Draws-Gymru yn dechrau ger y ffin â Lloegr ac yn croesi Cymru gyfan, gan ddod i ben ar draeth ar lan Môr Iwerddon. Mae hon yn daith o tua 120 milltir (180km) dros 5 diwrnod. Bob nos rydyn ni'n aros mewn gwesty neu dafarn wledig gyfforddus. Caiff eich bagiau eu cludo ymlaen bob dydd gan un o'n cerbydau cefnogol. Mae Taith y Parc Cenedlaethol yn cynnwys ymweld â thref farchnad Aberhonddu, â Thal-y-bont swynol ac â'r abaty hanesyddol yn Llanddewi Nant Hodni, wrth gylchdeithio Bannau Brycheiniog a'r Mynydd Du. Mae'r Daith Draws-Gymru'n teithio trwy 4 cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys Mynydd Epynt, y Mynyddoedd Cambriaidd a Chwm Elan. Mae'n dilyn Dyffryn Gwy trwy Lanfair-ym-Muallt a Rhaeadr hyd at ei ffynhonnell yn uchel ar Bumlumon. Oddi yno gallwch chi weld y rhan fwyaf o Gymru mewn un panorama. Diwedd y daith yw carlamu ar draeth Ynyslas ar lan Môr Iwerddon. |
Send mail to riding@transwales.com with questions or comments about this web site.Last modified: 12-06-08© Trans Wales Trails Ltd.
|